Stori Sydyn: Paid â Thybio
- Robert Davies
- May 26
- 2 min read
Sawl mlynedd yn ôl, ar ôl gweithio fel meddyg yn Lloegr am mwy na 30 flwyddyn, ro’n i’n dychweld i Abertawe, ble ces i fy ngeni a ces i fy magu. Dechreuais i i ddysgu Cymraeg achos ro’n i’n gweithio fel meddyg o hyd. Ro’n i’n gwybod y basai e’n bwysig iawn i gallu siarad Cymraeg gyda chleifion pan fo angen.
Ro'n i bron wedi cwblhau’r cwrs Sylfaen ac yn edrych ymlaen at gyfleoedd i ddefnyddio Cymraeg. Ar y pryd, ro'n i'n gweithio ar gyfer elusen sy’n cefnogi'r Gwasanaeth Ambiwlans. Ro'n i ar alwadau’n rheolaidd ac ar gael i fynychu damweiniau, anafiadau neu salwch difrifol.
Un diwrnod, derbynais i neges o’r ganolfan reoli ambiwlans – roedd person gyda anafiad difrifol ar y maes chwaraeon yn yr ysgol gyfrwng Cymraeg gerllaw. Dechreuais i i yrru yn syth (gyda goleuadau glas a seiren!). Roedd rhaid i fi ganolbwyntio ar yrru yn saff i'r lleoliad a doedd dim cyfle i ymarfer beth o'n i'n mynd i ddweud, ond dw i'n cofio fy mod i'n meddwl "bydd y cyfle hwn yn delfrydol i arddangos fy Nghymraeg gorau”!
Cyrhaeddais i fynedfa'r ysgol a siaradais i gyda athro sy wedi fy nangos i i'r maes chwaraeon. “Mae un o’r chwaraewyr wedi cael ei anafu” meddai e. “Dyn ni’n meddwl ei fod e wedi torri coes”. Ond wedyn diflannodd e rywle arall a bues i ar fy mhen fy hun.
Ffeindiais i dyn ifanc, effro ac yn gorwedd ar y glasswellt yng nghanol y maes a gyda dau oedolyn wrth ei ochr. Tybiais i taw ei rieni ydyn nhw. Roedd e’n amlwg bod y bachgen yn brifo. Edrychais i o dan y blanced drosto a gwelais i bod ei goes chwith wedi torri.
“P’nawn da” dywedais i “Rob dw i; meddyg dw i. Beth sy’n bod? Beth sy wedi digwydd?”
Distawrwydd… gwnes i barhau wrth i fi gysylltu e â’r monitor ac yn paratoi i roi triniaeth iddo. “Paid â phoeni. Byddi di’n iawn. Awn ni i’r ysbyty am belydr-X yn fuan.”
Distawrwydd eto…Oedd y claf a’i rieni yn siomedig achos doedd dim ambiwlans eisoes?
Paratoais i morphine ar gyfer y claf. “Dw i’n mynd i roi ychydig o morphine i ti nawr” – sylwais i bod y rhieni ymlacio yn sydyn. Ro’n i’n rhoi’r moddion a roedd y bachgen yn edrych yn well yn gyflym.
"Dyna ti, bach. Byddi di yn gyfforddus nawr a gallwn ni gosod sblint ar dy goes di".
Ac wedyn, siaradodd y bachgen am y tro cyntaf: “Please sir, could you speak English? I’m with the visiting team from England and I don’t speak Welsh!!”
Doh!
Roedd y wers: pan yn Nghymru, cewch chi ddechrau sgwrs yn Gymraeg ond dylwch chi’n wastad caniatáu’r person arall i ddewis yr iaith maen nhw eisiau siarad. Nawr, dw i’n dechrau gyda “bore da” ac wedyn dw i’n gwrando am yr ymateb!
Geirfa
Dylchwelyd - return
Pan fo angen - when necessary
Damweiniau - accidents
Anafiadau - injuries
Salwch difrifol - serious illness
Gerllaw - nearby
Meddai - he/she said



Comments