Amser maith yn ôl - rhan un
- Ceri Thomas
- Jul 20
- 4 min read

“Dwi’n mor dwp.” meddyliais i mi fy hun. “Pam wnes i werthu’r fuwch am ffa? Gobeithio bydda i’n ffeindio rhywun sy’n eisiau prynu’r ffa oddi wrtha i.”
Ac wrth i fi feddwl hynny, welais i, o gornel fy llygaid, hen dŷ mewn llannerch yn y fforest. “Hmm - mae’r haul yn mynd i gysgu cyn bo hir,” meddyliais. “Well i mi frysia. Gobeithio bydd rhywun yn y tŷ moyn prynu ffa”
Cerddais i lan y llwybr. Roedd y tŷ yn edrych yn agos ond roedd hi’n cymryd tipyn o amser ac roedd y llwybr yn ddiesymwth ac yn droellog felly roedd rhaid i mi gerdded yn igam-ogam. Edrychais i lan at y tŷ. Roedd mwg gwyn yn codi o’r simnai ac yn dianc i’r awyr. Roedd yr haul wedi troi’n goch. Coch fel gwaed ac roedd y tymheredd wedi dechrau oeri.
O’r ddiwedd cyrhaeddais i’r drws. Roedd e’n enfawr, wedi cael ei gwneud allan o bren. Ac roedd e’n hen. Llawn tyllau. Roedd e ar agor yn barod ond dim ond tamaid bach. Ro’n i gallu arogli rhywbeth ac roedd e’n arogl da. Roedd rhywbeth da yn cael ei goginio siŵr o fod. Ond ro’n i methu gweithio allan beth oedd e - cig oen efallai neu efallai cig eidion.
Cnoc cnoc ar y drws. Ond dim ateb. Cnoc conc unwaith eto. Dim ateb unwaith eto. Ond y tro hon agorodd y drws yn araf bach. “Helo - Jac sy 'ma. Mae ffa ffantastig gyda fi. Dwi’n eu gwerthu nhw,” Dywedais mewn llais uchel. Dim ateb.
Cnoc cnoc am y tro olaf. A dwi ddim yn gwybod pam ond cerddais i mewn gyda theimlad enfawr o nerfusrwydd. Roedd y stafell lawn yr arogl da. Ond dyna pryd welais e. Allan cornel fy llygaid. Roedd rhywun yn eistedd wrth y bwrdd ond roedd ei ben ar y bwrdd. “Tybed, ydy e’n cysgu?”
“Helo? Jac dwi.”
Ond dwedodd e dim byd. Symudodd e dim chwaith.
“Helo. Dych chi’n iawn?” Dywedais mewn llais mwy uchel.
Dal dim.
“Oce,” meddyliais “Efallai mae e angen help.”
Yn araf bach cerddais at y bwrdd. Roedd e’n flewog iawn.
“Helo. Dych chi’n iawn?”
Dal dim.
Wrth i mi agosáu, ro’n i gallu gweld bod ei blew yn wlyb iawn, iawn. Fel tasai e wedi bod yn chwysu’n drwm.
“Helo?”
A dwi ddim yn gwybod pam ond estynnais i fy llaw a rhoddais fy llaw ar ei ysgwydd dde. Ro’n i gallu teimlo’r blew ond doedd e ddim yn wlanog fel cath, roedd e’n glymog fel gwallt hen wrach. Ac roedd e’n wlyb. Ond y peth mwyaf brawychus oedd ei fod e’n oer. Ac yn sydyn roedd y stafell yn oer. Edrychais i allan y ffenest ac roedd hi’n ddu. Roedd yr haul wedi diflannu. Roedd y nos wedi cyrraedd ac roedd pob dim yn du fel tasai'r lleuad ar holl sêr i gyd wedi diflannu.
Dechreuais i anadlu yn ddwfn a ro’n i gallu blasu'r arogl. Beth oedd e?
A dwi ddim yn gwybod pam ond estynnais i fy llaw chwith a rhoddais i hi ar ei ysgwydd chwith a thynnais i’r person i lan er mwyn iddo fe eistedd lan yn syth. Roedd e’n drwm ond llwyddais i yn y diwedd. Ro’n i eisiau cerdded rownd i ffrynt y bwrdd i weld pwy oedd e, ond roedd ofyn gyda fi.
A dwi ddim yn gwybod pam ond dechreuodd fy nhraed symud a ro’n i cerdded ar hyd y hen fwrdd pren enfawr. Heibio’r bowlen a oedd ar y bwrdd. Beth oedd yn y bowlen? Ai uwd oedd yn y bowlen? Ai uwd oedd yr arogl? Cyrhaeddais ben draw’r bwrdd a throais rownd a dyna pryd sylweddolais i taw dim person oedd e ond arth!
Ac roedd e’n syllu arna i. Trwy ddau lygad. Syllu. Ond doedd o ddim yn syllu. doedd y meirw ddim yn gallu gweld dim byd. Ond roedd e’n syllu arna i, yn oer, gydag wyneb gwyn wedi‘i cuddio mewn uwd. Do’n i methu symud. Y tro hwn ro’n i eisiau i fy nhraed symud o’n doedden nhw ddim. Ro’n i anadlu yn fwy ac yn fwy dwfn. Ro’n i gallu blasu’r arogl unwaith eto. Na, dim uwd yw e. Beth yw e? Ro’n i gallu gweld fy anadl. Dianc yn wyn o fy ngheg fel y mwg o’r simnai.
Ro’n i’n sownd. Ac roedd yr arth dal yn syllu arna i.
Sownd. Roedd popeth yn ddistaw. Yr unig beth ro’n i gallu clywed oedd curiad fy nghalon.
Heb rhybudd daeth sgrech erchyll o nunlle. Rhedais i at y drws. Heibio’r bowlen o uwd. Heibio’r arth ac at y drws. Ond gyda chlep caeodd e. Doedd e ddim yn agor. Roedd yr hen ddrws yn fy nghadw i yn y tŷ. Troais i rownd, fy nghefn yn erbyn y drws, ac roedd y tŷ yn teimlo fel carchar. “Rhaid bod rhyw ffordd allan.” Edrychais o gwmpas a dyna pryd welais i fe - o gornel fy llygaid. Y drws arall, ar y chwith, ond dan y drws roedd 'na rywbeth ar y llawr. Camais i yn araf bach at y drws. Roedd fy nghalon yn curo’n cyflym. Ro’n i’n chwysu fel yr arth erbyn hyn ac roedd hi’n oer.
“Ai gwaed yw hynny?”
Clywais rhywbeth uwch ben. “Helo.” sibrydais gyda deigryn yn fy llygaid.
“Tyrd fynny grisau,” atebodd llais bach.
To be continued
Geirfa
Llannerch - Clearing/Glade
Diesmwyth - Uneasy
Blewog - Furry
Agosáu - To draw close
Estynnais - To extend
Ysgwydd - Shoulder
Gwlanog - Woolly
Syllu - To stare
Dianc - To escape
Sownd - Stuck
Rhybudd - Warning
Nunlle - Nowhere
Carchar - Prison



Comments