Bwyd neu Ffantasi
- Joanne Hanson
- 4 days ago
- 2 min read

Merch o'r cymoedd dw i yn wreiddiol, ac er fy mod i'n hoff iawn o deithio dros y byd a blasu pob math o fwyd, dw i eisiau'r un peth gyda phopeth i'w fwyta. Dw i eisiau i’r bwyd ar y plât i edrych fel bwyd, nid ffantasi neu gelf fel yn y raglen Masterchef.
Heb os nac oni bai, mae rhaglen Masterchef yn boblogaidd, ond dyw e ddim yn adlewyrchu ein harferion go iawn o gwbl. Gallwch chi weld ym mhob pennod fod y cogyddion yn treulio oriau, neu falle dyddiau, i ymarfer a pharatoi'r wledd mor gymhleth. Yn ôl erthygl yn y bapur newydd The Independant, mae oedolion modern cyffredin yn treulio dim ond hyd at un awr bob dydd i baratoi neu goginio bwyd. Mewn cyferbyniad â hyn, maen nhw'n treulio dros saith awr bob dydd yn edrych ar ryw fath o sgrin. Felly, mae hwn yn dangos yn glir bod pobl yn treulio llawer mwy o'r amser ar sgrinau na choginio.
Heblaw am yr amser, beth am y gost o ran arian? Cyfaddefodd un cystadleuwr wario mil o bunnoedd ar gynhwysion er mwyn ymarfer ar gyfer y sioe. Mae hwn yn dangos bod Masterchef wedi colli cysylltiad â bywydau pobl cyffredin. Basai mil o bunnoedd yn gallu bwydo teulu tlawd am amser hir.
A beth am y llysiau? Mae'r cogyddion yn chwilio pedwar ban y byd i ddod o hyd i'r llysiau gorau. Ond pan fyddan ymddangos ar y plât, weithiau dim ond ewyn neu staen dros y plât ydyn nhw.
Fel mae'r grwp iconig, Queen, yn gofyn,'Ydy hwn y bywyd go iawn? Ydy hwn 'mond ffantasi?' Dw i wedi dangos bod y prydau ar Masterchef yn ffantasi neu berfformiad ar blât a nid adlewyrchiad o'n bywydau.
Geirfa
Adlewyrchu – Reflect
Cogyddion – Chefs
Gwledd – Feast
Cyferbyniad – Contrast
Cyfaddef – Confess



Comments