Adolygiad Madfabulous a Phlas Newydd
- Ceri Thomas
- 5 days ago
- 2 min read
Un o Sir Fôn yn y gogledd dw i ac yr wythnos diwethaf ces i ddiwrnod diddorol a dysgais i lawer am hanes fy ardal. Es i i weld y ffilm Madfabulous yn y sinema sy’n seiliedig ar fywyd y 5ed ardalydd Ynys Môn - Henry Paget. Ond yn y bore es i i ddarganfod ble roedd e’n byw, Plas Newydd, sy’n perthyn i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol erbyn hyn.
Plas Newydd
Mae Plas Newydd yn dŷ diddorol dros ben ac mae llawer o bethau i’w wneud yno. Mae’r ystafelloedd yn ddiddorol ac mae rhai ohonyn nhw yn grand iawn - llawn portreadau a lluniau. Mae’r gwirfoddolwyr sy’n gweithio yn y tŷ yn gallu esbonio mwy am bob un ystafell.
Yn fy marn i, fel arfer, yr ystafell bwyta yw’r uchafbwynt. Mae golygfeydd dros y Fenai yn wych! Hefyd, mae murlunenfawr ar yn o’r waliau. Cafodd y murlun ei gomisiyni gan y 6ed ardalydd. Mae hi’n furlun ffantasi sy’n dod ac elfennau o lefydd gwahanol o Brydain gyda’i gilydd fel Castell Harlech a Chastell Windsor. Roedd ail uchafbwynt yr wythnos diwethaf achos mae arddangosfa dros dro o rai o’r costiwms o’r ffilm Madfabulous.
Mae hefyd gerddi diddorol i’w ddarganfod fel yr ardd rhododendron. Mae caeau a choedwigai hefyd felly mae’n lle pwysig i’r byd natur. Mae’n lle da i weld gwirwyrod coch ac mae dros 100 gwirwyr coch yn byw yno!
Madfabulous
Does dim un munud wedi cael ei gwastraffu yn y ffilm hon - mae wastad rhywbeth yn digwydd. Dydw i ddim eisiau dweud gormod - dim spoilers! Mae’r ffilm yn dechrau gyda 5ed Ardalydd cyrraedd ei adref newydd - Plas Newydd. Mae’n amlwg o’r ddechrau ei fod e’n sâl ond mae’n mwynhau bywyd! Mae’n hoff iawn o gwisgo lan felly mae ei ddillad yn fwy “Madfabulous” na rhai o’r dillad ar “Strictly!” Mae’n dilyn ei ddiddordeb yn y theatr ac mae’n amlwg ei fod e’n rhywun caredig iawn sydd efallai yn erbyn y system o ddosbarthiadau. Gwnes i chwerthin llawer wrth wylio’r ffilm ond mae’r ffilm hefyd yn archwilio perthnasau rhwng pobl gwanhanol fel pobl mewn teuluoedd, pobl o ddosbarthiadau gwahanol a ffrindiau. I mi, dyna beth sy’n gwneud y ffilm mor dda - mae hi’n “feel good film” sy’n gwneud i chi chwerthin ond mae hi’n gwneud i chi fyfyrio hefyd.
Mae’r ffilm wedi cael ei chynhyrchu gan gwmni o Ynys Môn ac mae’r actor sy’n chwarae rôl o Henry Paget yn dod o’r cymoedd yn wreiddiol. Mae ei berfformiad yn wych ac mae’n wir rhoi bywyd i’r cymeriad! Mae’r ffilm yn Saesneg a dwi’n meddwl ei bod hi’n beth da ffiliau fel hyn achos maen nhw’n helpu codi diddordeb pobl o wahanol lefydd ym Mhrydain, ac ymhellach, yng Nghymru.
Gobeithio bydd amser i chi mwynhau’r ffilm yn y sinema neu efallai dod lan i’r gogledd rhywbryd i ddarganfod trysorau Plas Newydd!
Geirfa
5ed Ardalydd – Fifth Marquis
Ymdiriedolaeth Genedlaethol – National Trust
Gwirfoddolwyr – Volunteers
Murlun – Mural
System o ddosbarthiadau – Class System
Cynhyrchu – Produce



Comments