Pum Ffordd i Ymarfer eich Cymraeg
- Jonathan Davies

- 5 days ago
- 2 min read
Lefel Mynediad +
Mae llawer o ddysgwyr yn dweud bod ymarfer eu Cymraeg yn anodd. Dyma pum syniad ar gyfer beth dych chi'n gallu gwneud i ymarfer eich sgiliau Siarad, Gwrando, Darllen ac Ysgrifennu ar ôl i'r dosbarth!
Mynd i Sesiwn Cefnogi Dysgwyr gyda Dysgu Cymraeg
Mae ymarfer siarad yn gallu codi ofn, ond mae'n bwysig dych chi'n siarad o'r dechrau. Felly, mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg yn rhedeg llawer o weithgareddau ledled Cymru i helpu siaradwyr newydd ymarfer siarad! Beth am fynd i fore coffi neu sesiwn sgwrsio ar lein neu yn eich ardal chi? Dych chi'n gallu ffeindio'r gweithgareddau ar wefan y Ganolfan.
Gwrando ar Bodlediad
Mae podlediadau yn ffordd dda iawn o ymarfer eich sgiliau gwrando. Mae miloedd o bodlediadau ar gael ar ypod.cymru. Felly, ewch i'r wefan a ffeindiwch bodlediad sydd o ddiddordeb i chi, mae llawer o ddewis.
Darllen Llyfr yn y Cyfres Amdani
Mae'r llyfrau yn y cyfres amdani yn ffantasteg ac yn addas ar gyfer pob lefel dysgu! Mae dros 40 teitl yn y cyfres erbyn hyn gyda rhywbeth ar gyfer pawb. Y llyfr cyntaf yn y cyfres yw 'Am Loteri' ac maen nhw'n dilyn yr unedau Dysgu Cymraeg. Os dych chi ddim eisiau prynu'r llyfrau, dych chi'n gallu benthyg y llyfrau am ddim ar BorrowBox!
Ysgrifennu Dyddiadur
Mae ymarfer ysgrifennu'n gallu bod yn anodd, hefyd. Ond, beth am ysgrifennu dyddiadur? Dych chi'n gallu ysgrifennu brawddeg neu ddau bob dydd i siarad am beth wnaethoch chi yn ystod y diwrnod. Yna, dych chi'n gallu ymarfer y patrwm newydd dych chi wedi dysgu yn eich gwersi.
Gweld beth sy'n digwydd gyda Menter Iaith
Mae Menter Iaith yn cynnal digwyddiadau ledled Cymru i siaradwyr newydd a siaradwyr rhugl. Ewch i wefan Menter Iaith i weld y digwyddiadau yn eich ardal chi! Mae Menter iaith yn gwneud gigs, sesiynau sgwrsio, bore coffi a llawer o bethau eraill!
Dych chi'n gallu meddwl am bethau eraill i wneud i ymarfer eich Cymraeg? Beth am rannu eich syniadau gyda ni!
Geirfa
Anodd - Difficult
Syniad - Idea
Codi ofn - Frighten
Ledled - Throughout
Gweithgareddau - Activities
Podlediad - Podcast
Addas - Suitable
Erbyn hyn - Now
Benthyg - Borrow
Dyddiadur - Diary
Cynnal - Carry out/Hold
Digwyddiadau - Events
Rhugl - Fluent

Comments