Eisteddfod '26 - Stori Ceri
- Ceri Thomas
- May 19
- 3 min read
Bydd Eisteddfod y Garreg Las y drydydd dro i mi wirfoddoli yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Gwirfoddolais i am y tro cyntaf yn Eisteddfod Pontypridd yn 2024. Mae rhaid i mi gyfaddef fy mod i wedi anghofio sut des i o hyd i’r cyfle - siŵr o fod mewn un o’r llythyrau newyddion. Roedd hi’n gyfle i helpu ym Maes D. Wedyn roedd ‘na chais am bobl i helpu gyda the a choffi tu ôl i’r llwyfan yn y Pafiliwn felly cofrestrais i am y ddau. Fel mae’n digwydd ro’n i’n helpu gyda the a choffi ym Maes D hefyd. Roedden ni’n gweithio mewn grwpiau o dri ac roedd y ddyletswydd yn eithaf syml - Paratoi diodydd, cadw’r lle yn daclus, golchi’r llestri ac ati. Roedd hi’n gyfle da i gwrdd â siarad gyda phobl newydd, ac yn y Gymraeg wrth gwrs. Roedd y ddwy shift yn parhau am tua thair awr ac roedden ni’n cael tocyn dydd felly ro’n i’n gallu aros ar y maes a mwynhau gweddill y dydd am ddim!
Yn 2025, ro’n i’n edrych ar wefan yr Eisteddfod pan welais i gyfleoedd i wirfoddoli fel stiward. . Roedd rhaid i mi lenwi ffurflen ar y wefan ac roedd hi’n bosib nodi ar ba ddiwrnodau ro’n i eisiau stiwardio a hefyd ym mha llefydd ar y Maes e.e.. Y Babell len, Y Lle Celf ac ati. Roedd y ffurflen yn ddweud mai dim ond cais oedd hyn ac roedd y lleoliad a’r amseroedd yn dibynnu ar lawer o bethau gwahanol. Roedd un sesiwn hyfforddiant ar-lein cyn yr Eisteddfod. Roedd y sesiwn yn cynnwys pethau fel diogelwch tân a beth i wneud mewn senarios gwahanol. Roedd hefyd gyfle i fynd i sesiwn wyneb yn wyneb i bobl a oedd yn byw yn agos at Wrecsam. Ces i lawlyfr ac amserlen hefyd a chwarae teg, ces i’r ddwy shifft ro’n i wedi gofyn amdanyn nhw ac un ohonyn nhw yn un o’r lleoliadau ro’n i eisiau felly ro’n i’n hapus iawn.
Pan o’n i stiwardio, roedd angen i mi gofrestru, casglu siaced werdd, casglu fy nhocyn dydd (am ddim unwaith eto) a cherdded i Encore lle ro’n i’n stiwardio a'r Lle Celf ar yr ail ddydd. Yn Encore, roedd rhaid i mi sefyll wrth fynedfa'r babell a chroesawu pobl, helpu gyda chwestiynau, sicrhau doedd dim gormod o sŵn yn dod mewn i’r babell o du allan ac wedyn tacluso'r babell ar ddiwedd y shifft.
Roedd fy shift yn y Lle Gelf yr un cyntaf yn y bore felly cyrhaeddais i gyn i’r babell agor. Ces i, a’r gwirfoddolwyr eraill, daith dywys o gwmpas Y Lle Celf a dysgais i lawer am yr artistiad a’r gwaith. Wedyn, ar ôl i’r Lle Celf agor, roedd rhaid i mi sicrhau doedd pobl (yn enwedig plant) dim yn cyffwrdd a’r gelf a helpu gyda chwestiynau (yn anffodus anghofiais i rai pethau o’n taith dywys) ond roedd taflenni gwybodaeth ar gael ac roedd hi’n bosib gofyn i aelodau y staff hefyd - roedd pob un ohonyn nhw yn gyfeillgar iawn.
Felly, bydda i’n stiwardio eleni hefyd! Mae hi’n gyfle da i siarad Cymraeg gyda phwy bynnag sy ‘na gan gynnwys staff a gwirfoddolwyr eraill - ro’n i wastad yn gweithio mewn tîm o dri. Mae’r tocyn dydd yn helpu i arbed arian. Hefyd, rwyt ti’n gweld ochr arall yr Eisteddfod ac yn teimlo dy fod ti’n cymryd rhan ac yn cyfrannu at yr Eisteddfod yn hytrach na dim ond ymweld â hi.
Felly - rhowch gynnig arni hi - mae’n gyfle gwych. Mae mwy o fanylion ar gael ar y wefan sy’n hysbysebu bydd y portal ar agor ym Mis Mai. Dyma’r ddolen: https://eisteddfod.cymru/gwirfoddoli
Geirfa
Gwirfoddoli - Volunteer
Cyfaddef - Confess
Dyletswydd - Duty
Hyfforddiant - Training
Taith dywys - Guided Tour



Comments