NorthWest 200
- Patrick Taylor
- May 18
- 2 min read
Mae'n wallgo bod yn bosib…
Dydy’r NorthWest200 ddim fel unrhywbeth arall yn y byd.
Wyt ti erioed wedi meddwl fel beth fasai’n teimlo i yrru lawr dy stryd di dros cant milltir yr awr? Ar feic modur? Paid â phoeni: mae’n bosib profi sut mae’n teimlo, a mewn gwlad Geltaidd, hefyd!
Unwaith bob blwyddyn, y prif ffyrdd rhwng Portstewart, Coleraine a Portrush yng ngogledd-orllewin Iwerddon cael eu cau i’r cyhoedd er mwyn i raswyr beic modur rasio ar gwrs trionglog mewn ras y NorthWest 200. Yn lle cael eu cynnal ar drac rasio, cynhelir y rasys hyn ar ffyrdd cyhoeddus; mae bywyd bob dydd yn stopio am diwrnod, strydoedd ochr wedi’u cau gan raffau gyda darn o frethyn coch wedi’u clymu wrthyn nhw, ac mae bobl yn dod o bell ac agos er mwyn gwylio un o’r digwyddiad chwaraeon mwya arbennig y byd.
Mae’r cwrs yn dechrau ar bromenâd wrth y môr, cyn troi rhwng tai pâr, yn mynd rownd sawl cylchdro ac allan i'r cefn gwlad, ble mae’r ffordd yn rhedeg rhwng caeau. Ar ôl cyrraedd Portrush, mae cornel finiog ger yr eglwys, ac mae'r ffordd yn mynd o dan bont rheilfford, cyn i’r cwrs ddod i ben nôl ar ffordd yr arfordir.
Ym mhob ras, mae'r raswyr yn dechrau gyda’i gilydd, gyda phob un ohonyn nhw’n ceisio reidio o gwmpas y cwrs 8.9 milltir mor gyflym â phosib: mae rhai ohonyn nhw’n cyrraedd cyflymderau dros dau gant milltir yr awr mewn lleoedd, cyn arafu er mwyn troi corneli miniog. Wrth gwrs mae'n gallu bod beryglus iawn, gyda phostiau lamp, arwyddion stryd a gorchuddion tyllau, ond mae rhagofalon diogelwch ym mhob man: mae beiliau o wair a ‘pads’ eu clymu yn lle ac mae wyneb y ffyrdd yn esmwyth iawn, gyda llawer o afael.
Mae’n ddigwyddiad mor gyffrous. Mae’n gyflym, swnllyd, ac yn bleserus iawn. Mae’r pobl yn gyfeillgar ac os wyt ti’n lwcus, mae’r haul yn disgleirio. Mae'n wallgof bod yn bosib i sefyll ar ymyl y stryd, neu ar lwybr o flaen tŷ i wylio un o'r rasys beic modur mwya cyflym y byd. Gyda llawer o rasio yn agos ac awyrgylch hamddenol (ymlith y gwylwyr, o leia!), mae'n ddigwyddiad unwaith mewn oes i lawer. Wrth gwrs, os dwyt ti ddim yn gallu ymweld â gogledd-orllewin Iwerddon yn gynnar ym mis Mai, mae’n bosib i wylio’r rasys ar y teledu - dim yr un peth, efallai, ond blas bach o fel beth fasai’n teimlo i yrru yn gyflym iawn ar strydoedd cyffredin...
Geirfa
Cynhelir - is held
Raffau - ropes
Cylchdro - roundabout
Miniog - sharp
Cyflymderau - speeds
Gorchuddion tyllau - hole covers
Rhagofalon - precautions



Comments