top of page
Search

Eisteddfod 2026 - Stori Kevin!

  • Kevin Davies
  • May 10
  • 3 min read

Updated: Jul 29



Kevin Davies yw fy enw i a dwi'n byw yn Nhrefgarn Owen ger Solfach, ardal sydd â hunaniaeth Gymreig gref a hudolus hefyd!


Roedd plentyndod arbennig gyda fi wrth dyfu lan fel ‘down below’ yn Ninbych y Pysgod. Er fy mod yn aml yn teimlo bod fy mhlentyndod yn eithaf melys a chwerw yn y 1970au, roedd diffyg Cymreictod yn y dref ac nid oedd yr un wers Gymraeg yn yr ysgol. Ond diolch byth mae pethau yn wedi newid ers hynny.


Dwi wedi bod yn dysgu Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Sir Benfro ers 2022. Gyda chefnogaeth rhai tiwtoriaid gwych sylweddolais yn gyflym iawn bod dysgu ein hiaith yn golygu’n fwy na’r gallu i gyfathrebu gyda chyd-dysgwyr yn y dosbarth. Mae ein hiaith yn rhan bwysig o’n treftadaeth a genidigaeth- fraint; nid yw’n perthyn i’r dosbarth yn unig na dim i’w ystyried fel eitem melys atgofa mewn amgueddfa. Mae’n perthyn yn ein cymunedau fel iaith fyw.


Dwi'n cofio y cyffro pan glywais y byddai'r Eisteddfod Genedlaethol yn dychwelyd i Sir Benfro yn 2026. Fel dysgwr, teimlai'r syniad o fod yn rhan o'r paratoadau ar gyfer y gŵyl fawr hon fel cyfle unwaith yn y bywyd. Mynychais gyfarfodydd cyntaf i glywed am gynlluniau ar gyfer pwyllgorau, targedau rhaid eu cyrraedd ac wrth gwrs fel pob Eisteddfod arall yr arian rhaid i ni ei godi.


Gyda hoffter dwi'n cofio fy Eisteddfod gyntaf erioed yn Hwlffordd yn 1972, fel crwt heb un gair o Gymraeg yn cyrraedd y Maes roedd yn anodd deall cymaint o'r hyn oedd yn digwydd, ond roedd yn dal i deimlo'n hudol. Ers hynny, dwi wedi bod i nifer o rai eraill, felly i gael 2026 ar fy stepen drws roedd yn gyfle gwych i gyfrannu.


Wedi rhoi fy enw ymlaen i wirfoddoli ar fy nghyngor lleol Penrhyn Dewi a'r ardal, ces i wahoddiad yn fuan i'r cyfarfod cyntaf lle ces i fy enwebu fi fel cydlynydd. Yn gyflym, ro'n ni'n rhannu syniadau a gwneud cynlluniau ar gyfer digwyddiadau. Teimlais yn anrhydeddus iawn i weithio gyda phobl sydd yn rhugl yn ein hiaith ac yn ffodus bod gan y rhan fwyaf o'r pwyllgor brofiad o godi arian pan oedd yr Eisteddfod yn ymweld â Thyddewi. Y cyfanswm targed i'w gyrraedd oedd £400,000 ac ar gyfer ein pwyllgor ni'r targed oedd £17,500. Wnaethon dorri'r ddau darged yn ogystal â chwpl ychwanegol!


Dyn ni wedi trefnu digwyddiadau lleol o amgylch Penrhyn Dewi gyda rhai o berfformwyr gorau Cymru, gan gynnwys Gwilym Bowen Rhys, Meinir Gwilym, Jessica Robinson, Caleb Nicholas, Mari Mathias, Côr Bytholwyrdd a llawer mwy. Cefnogwyd ni gan y gymuned leol, Cymraeg a di-Cymraeg i gyd. Yn rhyw ffordd, roedd yn teimlo fel cyflawniad mwy denu'r di-Gymraeg i’r digwyddiadau. Cynhaliwyd amrywiaeth o ddigwyddiadau i bawb, o drefnu teithiau bws, i gynnal bore coffi i gynnal Adam yn yr Ardd ac wrth gwrs digwyddiadau cerddoriaeth.


Yn un ffordd neu'r llall, ro'n i'n rhan o'r holl ddigwyddiadau, ond y digwyddiad dwi yn fwyaf balch ohono oedd taith fws i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Ro'n i'n gyfrifol am bob elfen y taith ar fy mhen fy hun.


Bues i’n ffodus iawn yn ddiweddar i brofi bwrlwm o weithgaredd ar draws pob rhan o'r sir wrth baratoi ar gyfer Eisteddfod Y Garreg Las. Fel dysgwr, mae bod yn rhan o bwyllgor codi arian at yr Eisteddfod Genedlaethol fel cydlynydd wedi bod yn anhygoel o werthfawr. Mae gwneud cyfraniad i ben-blwydd 850 yr Eisteddfod a gallu cwrdd â rhai siaradwyr Cymraeg rhugl wedi bod yn brofiad cofiadwy.


Mae cymaint o achlysuron gwych wedi dod i’m rhan, a dwi wedi cwrdd â chymaint o bobl ryfeddol trwy gyfrwng y Gymraeg.


Os gaf i, un darn o gyngor - peidiwch â 'whilibawan a gwnewch rywbeth defnyddiol – ewch allan yno a defnyddio ein hiaith a gwneud rhywbeth yn y gymuned Gymraeg.


Geirfa

hunaniaeth - Identity

Treftadaeth - Inheritance

Genedigaeth - Birth

Pwyllgor - Committee

Hoffter - Affection/Fondness

Gwirfoddoli - Volunteer(ing)

Anrhydeddus - Honoured

Cydlynydd - Coordinatior

Whilibawan - (to) Dawdle

 
 
 

Comments


Listen to our podcast

Dysgu Cymraeg Pod.png

© 2026 Daliwch Ati Blog gan Cynrychiadau ar y Gweill

bottom of page