Dyddiadur Teithio Mai '26: Liz
- Liz Clarke-Smith
- May 13
- 2 min read
Lefel Mynediad!

Wythnos diwetha es i ar wyliau i Loegr gyda fy nghi Guto a fy ffrind, Elin, ac ei chi hi, Tobi. Arhoson ni mewn bwythyn bach yn Oxfordshire ar bwys Woodstock. Ro’n ni’n lwcus – roedd y tywydd yn braf ac yn heulog. Felly, ro’n ni’n gallu cerdded yn y cefn gwlad ac ymweld â llawer o lefydd. Roedd y cŵn yn gyffrous i rhedeg yn y coed ac edrych ar y adar yn y caeau – gwyddau, hwyaid a ffesantod – a siasio ar ôl y cwningod. Yn ffodus, wnaethon nhw ddim dal cwningen!
Dyn ni wedi mwynhau mynd i balas Blenheim. Roedd golygfeydd bendigedig ar dir y palas a welon ni gerflun Churchill. Caeth e ei eni yn y palas pan oedd ei rhieni e wedi ymweld â theulu yno. Roedd arddangosfa ddiddorol am ei fywyd e. Roedd e’n ymweld a’r balas yn aml a gwnaeth e briodi yma. Mwynheuodd e baentio yn ei amser sbâr a mae’r cerflun yn dangos hyn.
Ar ôl y palas, gyrron ni i dre Bicester i brynu llawer o bethau yn y Designer Outlet. Ro’n i’n hapus iawn i ffeindio esgidiau cerdded cyfforddus. Dw i’n mwynhau cerdded gyda Guto bob dydd ac felly rhaid i fi cael esgidiau da iawn. Ro’n ni’n bwyta cinio yn y bwyty Ottolenghi. Roedd y bryd o fwyd yn flasus iawn a ro’n nhw’n hapus i weld ein cŵn ni. Hefyd, ro’n i’n mynd i siop fferm “Diddly Squat’ – mae’r siop ar y teledu gyda Jeremy Clarkson. Ffermwr yw nai Elin ac mae e’n hoffi’r rhaglen. Felly, prynodd hi ddau grys-t yn y siop i roi i ei nai hi fel anrheg. Mae tractor a defaid ar y blaen.
Hefyd, ymwelon ni â Westonbirt Arboretum. Dw i’n hoffi mynd yma bob tymor. Mae lliwiau yn hyfryd bob amser ond maen nhw’n newid trwy’r flwyddyn. Y tro hwn, roedd e’n neis i weld y blodau o’r gwanwyn a gwrando ar y adar ifanc. Ar ôl ein dro ni, aethon ni i’r caffi i gael coffi a chacen. Gwych!
Mwynheuon ni’n fawr iawn. Nawr dw i’n edrych ymlaen at y gwyliau yn y haf, pan bydda i’n mynd i Sir Benfro.
Geirfa
Cefn Gwlad – Country Side
Gwyddau – Geese
Hwyaid – Ducks
Ffesantod – Pheasants
Siasio – Chasing
Golygfeydd – Views
Cerflun – Statue
Caeth e ei eni – He was born
Tymor – Season



Comments