top of page
Search

Adolygiad: Mari Mathias yn y Taliesin

  • Robert Davies
  • May 19
  • 2 min read

Dych chi’n newydd i’r sŵn o gerddoriaeth werin Cymraeg neu dych chi wedi bod ffan ers llawer dydd? Ac os ffan eisoes, oes well gyda chi alaw traddodiadol gyda chytgan y gallech chi canu, neu ydych chi’n chwilio am ganeuon newydd? Beth bynnag, roedd rhywbeth ar gyfer pawb nos Wener diwethaf (8ed o Fai 2026) yn Theatr Taliesin ym Mhrifysgol Abertawe.

 

Roedd y hanner cyntaf mewn cwni o Angharad Jenkins (merch leol!) a Patrick Rimes – cerddorion enwog y dau fel unigolion ac hefyd gyda’r band “Calan”. Chwaraeon nhw detholiad o’u repertoire eang (er nid, yn drugarog, o’i album “Motherland”) ac wedi cyflwyno cerddoriaeth yn defnyddio ffidl, llais a allweddell i fodloni'r disgwyliadau pawb.

 

Wedyn, aeth Mari Mathias i’r llwyfan gyda rhai o’i band “Mwsog”. Gwelais i Mari y tro cyntaf yn ystod Gŵyl Tawe yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau y llynedd ac ar ôl y perfformiad hwnna es i yn syth i brynu ei CD "Annwn". Felly, ro’n i’n gwybod eisoes rhywbeth o’i cherddoriaeth ac ei llais anghyffredin. Mae Mari ei hun wedi disgrifio yn aml ei thaith (hyd yn hyn) a’r ffynhonellau cerddorol amrywiol sydd wedi ei dylanwadu ers plentyndod – ac hefyd, fasai hi byth yn hapus dim ond yn preserfio hen alawon.

 

Mae Mari ar genhadaeth i ddatblygu cerddoriaeth werin Cymraeg. Mae ei dehongliadau o ganeuon weithiau yn gallu mynd â chi yn bell i ffwrdd o’r gwaith gwreiddiol. A nawr dw i'n deall, ar ôl gwrando i rhai o’i gwaith newydd, pam cafodd Mari a’i band eu disgrifio fel clan o swynwyr roc gwerin seicedelig!

 

Gallech chi weld Angharad, Patrick a Mari/Mwsog mewn sawl lleoliad dros yr ychydig fisoedd nesaf gan gynnwys Gŵyl Tawe ar 6ed o Fehefin.


Geirfa

Eisoes - already

Alaw - melody

Cytgan - chorus

Cerddorion - musicians

Detholiad - selection

Allweddell - keyboard

Llwyfan - stage

Anghyffredin - uncommon

Ffynhonellau - sources

Cenhadaeth - mission

Dehongliad - interpretation


 
 
 

Comments


Listen to our podcast

Dysgu Cymraeg Pod.png

© 2026 Daliwch Ati Blog gan Cynrychiadau ar y Gweill

bottom of page