Achub y Draenog!
- Paula Gibson
- 2 days ago
- 2 min read
Lefel Sylfaen

Dw i’n lwcus iawn i fyw yn y Dyffryn Gwy. Mae llawer o anifeiliaid gwyllt o gwmpas yr ardal – ceirw, ystlumod, llwynogod, daearfoch – mae’r rhestr yn mynd ymlaen. Ond, dros yr ychydig o flynyddoedd diwethaf, mae nifer y draenogod wedi gostwng. Oeddech chi’n gwybod eu bod nhw y mamolyn hoff Prydain, ond maen nhw mewn perygl o ddiflannu? Rydyn ni’n meddwl bod 500,000 yn y gwyllt, i lawr o 30 miliwn yn y pumdegau. Dyna pam cofrestrais i helpu i achub ein ffrindiau pigog gyda Hedgehog Volunteer First Response Volunteer Unit (FRU), Trefynwy.
Tîm o wirfoddolwyr ydyn ni, mae cylchres gyda ni drwy’r wythnos gyda llinell gymorth ffôn, lle mae pobl yn gallu gadael neges. Ar y cyfan, dyn ni’n ateb yn syth ac yn rhoi cyngor neu’n mynd i nôl y claf. Fel arfer, rydyn ni’n mynd â’r claf at achubwr gwirfoddol. Gwirfoddolwyr ydyn nhw sy’n rhoi’r gorau eu hamser a’u harian i ofalu amdanyn nhw. Does dim digon o wirfoddolwyr fel y rhain yn yr ardal. Yn yr achosion gwaethaf, dyn ni’n mynd â nhw i’r ysbysty anifeiliaid yn Sir Gaerloyw, elusen arall, weithiau taith ddwy awr yn ôl ac ymlaen.
Yn 2025, derbynon ni 74 galwad a 57 achub. Ers mis Ionawr 2024, 268 galwad a 228 achub. Yn ddiweddar, agoron ni ganolfan achub yn Sir Fynwy, Y Clwt Pigog, i helpu y sefyllfa. Yn y cyfamser, cofiwch:
· Rhowch llestri bas o ddŵr allan yn yr ardd – nid llaeth!
· Bwyd ci neu gathod yn unig o‘r Gwanwyn i’r Hydref – nid bara! Cadw’n lân.
· “Allan yn ystod y dydd, ddim yn iawn” – ffoniwch ganolfan achub yn syth (oni bai mae'n fam sy'n nythu ac yn brysur iawn yn casglu dillad gwely). Hedgehog Helpline 07557 646773 contact@hedgehoghelpline.co.uk ar y tro cyntaf neu y FRU 01600 605125 i Sir Fynwy.
· Rhowch mewn bocs mawr gyda photel ddŵr poeth ac hen dywelion.
· Cofiwch, cadwch lygad amdanyn nhw pan fyddwch chi’n torri’r glaswellt, yn strimio neu'n cynnau tanau.
· Gadewch y nythod heb eu tarfu.
Gobeithio, gyda’ch help chi, gallwn ni achub yr anifeiliaid hardd hyn.
Geirfa
Dyffryn Gwy – Wye Valley
Gwirfooddolwyr – Volunteers
Cylchres – Rota
Achubwr – Keeper
Sir Gaerloyw – Gloucestershir

Comments