Gwahoddiad i Barti Rhyfeddol
- Terry Hammond
- Jun 13
- 2 min read
I barhau gyda ein cyfres ar yr Eisteddfod, mae Terry Hammod wedi rhannu gwaith mae e wedi ysgrifennu ar gyfer yr Eisteddfod Nedd ym mis Ebrill. Testun lefel Sylfaen oedd ‘ysgrifennu ebost yn gwahodd pobl i barti arbennig’.
Er mwyn esbonio tipyn bach am y darn a’i gysylltiad ag Eisteddfodau, gofynon ni i Terry rannu paragraff bach. Dyma beth ddywedodd Terry:
‘Dw i wedi joio dysgu cymraeg enwedig dysgu am traddodiadau a diwylliant fel ti’n gallu gweld. Dw i wedi ei ffeindio fe’n haws i ddarllen a sgwennu cymraeg na siarad cymraeg. Dyna pam ysgrifenais i’r darn am Yr Eisteddfod Nedd. Pan dw i’n gwneud fy ngwaith cartref, dw i’n trio bod yn ddoniol hefyd. Gobeithio bydd pobl eraill yn ei ffeindio fe’n ddoniol hefyd’
Felly, dyma’r ebost:
Annwl Macsen Wledig
Hoffwn i gynnig gwahoddiad i chi i ddod i barti arbennig a rhyfeddol. Gallwch chi ddod ar eich pennau eich hunan. Does dim rhaid i chi ddod â dim byd a chewch chi wisgo unrhyw beth chi’n moyn. Tasai diddordeb gyda chi, baswn i’n eich casglu chi oddi wrth eich catref chi cyn gynted â phosib. Cewch chi gyfle ymweld â llawer o bobl diddorol eraill sef Julius Caesar, Owain Glyndŵr, Llewelyn ap Gruffudd, Dewi Sant, Saunders Lewis, Kate Roberts, David Lloyd George a llawer mwy.
Mae eisiau i fi esbonio. Mae peiriant amser gyda fi a galla i fynd yn ôl ac ymlaen mewn amser ble bynnag dw i’n moyn.
Fel mae pobl yn dweud, man gwyn man draw, felly dewch er mwyn cwrdd â phobl oedd yn enwog yn y gorfennol o Gymru.
Gad i fi wybod. Gadewch neges ar y bwrdd heno a gwnaf i weld hi’n fuan.
Y Meddyg.
Geirfa
Parhau - Comtinue
Testun - Subject
Traddodiadau - Traditions
Sgwennu - Ysgrifennu



Comments