Amdanon Ni
Helo bawb!
Croeso i Daliwch ati.
Jon ydw i a dw i'n gyfrifol am Daliwch ati. Penderfynais greu Daliwch ati i ddarparu lle i siaradwyr newydd y Gymraeg rannu eu hiaith gyda'i gilydd. Mae'r wefan yn cynnal platfform i siaradwyr newydd gyfrannu gwaith ysgrifenedig ar ystod o bynciau o draethodau, darnau newyddion ac adolygiadau i gerddi, straeon a ffuglen arall.
Mae'r blog ar agor i gyflwyniadau ac mae tîm bach o 'ysgrifenwyr tŷ' sy'n cyfrannu amrywiaeth o erthyglau ar ystod eang o themâu! Hefyd, os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r tîm, neu os ydych chi eisiau cyfrannu untro, llenwch y ffurflen ar yr hafan.
Mae pob darn o gynnwys wedi'i farcio â'r lefel dysgwr briodol ac mae llawer o'r erthyglau'n dod gyda rhestr o eiriau defnyddiol sydd yn y testun.
Yn ogystal â'r blog, mae Daliwch ati hefyd yn bodlediad lle gall siaradwyr Cymraeg newydd ddod ymlaen a thrafod unrhyw beth maen nhw'n ei hoffi ar lefel sy'n addas iddyn nhw. Os ydych chi eisiau cymryd rhan fel gwestai, llenwch y ffurflen ar yr hafan.
Diolch yn fawr iawn a gobeithio y byddwch chi'n aros o gwmpas ac yn darllen yr hyn sydd ar gael.
Jon x